1,2,(3),4,7; 1,2,3,5,7; 1,2,(4),5,7; 1,2,4,6; 1,2,5; 1,4. Dal fi, fy Nuw, dal fi i'r làn, 'N enwedig dal fi lle 'rwy'n wan; Dal fi yn gryf nes mynd i maes O'r byd sy'n llawn o bechod cas. Gwna fi'n gyfoethog ymhob dawn, Gwna fi fel halen peraidd iawn, Gwna fi fel seren olau wiw 'N disgleirio yn y byd 'rwy'n byw. Gwna imi wel'd mai Ti yw'm rhan, Gâd imi'th ganfod yn mhob man; Gâd imi'n wastad blygu lawr, I'th lân ewyllys bob yr awr. Dysg fi mewn gorthrymderau trist I bwyso ar f'anwylaf Grist; Dysg fi, wrth fyn'd o'r byd i maes, I gario'r dydd ar angeu glas. Dysg fi, fy Nuw, dysg im pa fodd I ddweud a gwneuthur wrth dy fodd; Dysg im ryfela a'r ddraig heb goll, A dysg im goncro 'mhechod oll. Pa'm carai'r byd a'i wagedd mwy, Hyd angeu'n brin y deuant hwy; Gwell i mi garu'r ffrynd a ddaw, Yn angeu i 'maflyd yn fy llaw. Tra caffwyf rodio'r ddaear hon Rho dy dangnefedd dan fy mron; Ac yn y diwedd moes dy law I'm dwyn i mewn i'r nefoedd draw. - - - - - Dal fi fy Nuw, dal fi i'r lan, 'N enwedig dal fi lle'r wy'n wàn; Dal fi yn gryf, nes myn'd i ma's, O'r byd sy'n llawn o bechod câs. Dysg fi mhob man, dysg fi pa fodd, I ddweud a gwneuthur wrth dy fodd; Dysg fi ryfela'r ddraig heb goll, Ac i orchfygu mhechod oll. Pan gwelych di fi'n crymu 'mhen, At unrhyw wrthrych îs y nen; O dangos im' na thâl yr un, I'w garu byth ond ti dy hun. 'Does ond y fraich a wnaeth y byd, A'm cynnal ar fy nhaith o hyd; Mae'n abl er tymhestlodd fil, I'm cadw ar y llwybr cul. - - - - - Dal fi fy Nuw, dal fi i'r lan, 'N enwedig dal fi lle 'rwy'n wan: Dal fi yn gryf nes myn'd i maes, O'r byd sy'n llawn o bechod câs. Bryd cai ddinystrio'm delwau'n llawn, Sy am lechu danai'n ddirgel iawn: Llabyddio Agag yn ddi barch, A Dagon gwympo o flaen yr Arch. O anwyl Iesu brysia bydd, Yn awr fel iwrch neu lwdn hŷdd, O tyr'd ar frys a chluda i lawr, Fy holl elynion fach a mawr. Can mîl o weithiau gwyn fy myd, Gai goncwest ar fy meiau i gyd; Gael bod yn bur trwy nefol ras, A darfod son am bechod cas. - - - - - Dal fi, fy Nuw, dal fi i'r lan, 'N enwedig dal fi pan b'wy'n wan; Nes myn'd yn lân, dal fi â'th ras, O'r byd sy'n llawn o bechod câs. Rho win ac olew yn fy mriw, Gwisg fi yn dêg â delw Duw; A thyn fi'n llon i blith y llu Sy'n ddysglaer yn y nefoedd fry. Caf yno lechu'n dawel, glyd, O sŵn y boen sydd yn y byd; A'm nefoedd byth yn nef y nef Fydd edrych ar ei wyneb Ef. - - - - - Dal fi, fy Nuw, dal fi i'r làn, 'N enwedig dal fi pan bwi'n wan; Nes myn'd yn lân, (da fi â'th ras,) O'r byd sy'n llawn o bechod câs. Gwna fi fel halen trwy dy râs, Yn wyn, yn beraidd iawn ei flas; Yn foddion yn dy law o hyd, I dynu'r adflas oddiar y fyd. O deued dydd yr India i ben, I wel'd yr hwn fu ar y pren; A ninnau'n un, yn un â hwy, Yn canu am ei farwol glwy'. Amen, amen, boed môr a thîr, Mewn perffaith hêdd, mewn cariad gwîr, Heb ganddynt bleser o un rhyw, Ond caru'n Iesu mawr a'n Duw. Mi af ymlaen er t'wylled yw, I'r wlad 'rwy am fyn'd iddi fyw; Fe gwyd y wawr mae addewid nef, Y câf fyn'd adre' ato ef. Ond boed fy nghlustiau'n gwrando o hyd Ddirgelion dystaw nefol fyd; A'm pleser unig, ddydd a nos, Yn nyfnion wirioneddau'r groes. Pan gaffwyf wel'd ei nefol wêdd, A phrofi blâs ei ddwfol hêdd; 'Dwi'n gwel'd gogoniant mwya'r byd, Ond peth annheilwng o fy mryd. Doed gogledd, dê, a dwyrain bell, I glywed y newyddion gwell; A thaened swn efengyl gras, Yn gylch oddeutu'r ddaear lâs. Amen, amen, boed môr a thir Mewn perffaith hedd, mewn cariad gwir Heb ganddynt blser o un rhyw Ond caru Iesu mawr a'u Duw. 'N disgleirio :: 'Ddysgleirio Gwna imi wel'd :: Gâd i mi wel'd Dysg fi mewn :: Dysg im, mewn Dysg fi, fy :: Dysg im, fy Tra caffwyf rhodio :: Tra fyddwy'n rhodio
Tonau [MH 8888]:
gwelir: |
Hold me, my God, hold me up, Especially hold me where I am weak; Hold me strongly until I go away From the world which is full of hateful sin. Make me rich in every gift, Make me like very sweet salt, Make me like a worthy star of light Shining in the world while I am alive. Make me see that Thou art my portion, Let me find thee in every place; Let me always bend down, To thy holy will every hour. Teach me in sad afflictions To lean on my dearest Christ; Teach me, while going from the world into the field, To carry the day over bitter death. Teach me, my God, teach me how To speak and act according to thy pleasure; Teach me to fight with the dragon without loss, And teach me to conquer all my sin. Why should I love the world and its emptiness any more, Until death scarcely take them; Better for me to love the friend who is coming, In death to take hold of my hand. While I get to travel this earth Give thy peace under my breast; And in the end lend thy hand To lead me inside yonder heaven. - - - - - Hold me my God, hold me up, Especially hold me where I am weak; Hold me strongly, until I come out, Of the world which is full of hateful sin. Teach me everywhere, teach me how, To speak and do according to thy pleasure; Teach me to battle the dragon without loss, And to overcome all my sin. When thou see me bowing my head, To any object beneath the sky; O show me that not one does pay, Ever to be loved but thee thyself. There is only thy arm which made the world, That will support me on my journey always; It is able, despite a thousand tempests, To keep me on the narrow path. - - - - - Hold me my God, hold me up, Especially hold me where I am weak: Hold me strongly until I come out, Of the world which is full of hateful sin. When shall I get to destroy my idols fully, That want to lurk under me very secretly: To stone Agag dishonourably, And Dagon fall before the ark. O dear Jesus hurry to be, Now like a stag or a young hind, O come hurriedly and bring down, All my enemies small and great. A thousand times blessed am I, To get victory over all my faults; To get to be pure through heavenly grace, And mention cease about hateful sin. - - - - - Hold me, my God, hold me up, Especially hold me whenever I am weak; Until I go cleanly, keep me with thy grace, From the world which is full of hateful sin. Put wine and oil in my wound, Dress me finely with God's image; And draw me cheerfully among the host Which is shining in the heavens above. I may have there hiding quietly, cosy, From the sound of the anguish which is in the world; And my heavens forever in the heaven of heaven Shall be to look upon His face. - - - - - Hold me, my God, hold me up, Especially hold me whenever I am weak; Until I go cleanly, keep me with thy grace, From the world which is full of hateful sin. Make me like salt through thy grace, White, very sweet its taste; As medicine in thy hand always, To draw the bad taste from the world. O may the day of India come to pass, To see him who was on the tree; And we too as one, as one with them, Singing about his mortal wound. Amen, Amen, let sea and land be In perfect peace, in true love, Without having pleasure of any kind But the love of the great Jesus and our God. I will go forward although it is dark, To the land I am going to live in; The dawn will rise it is the promise of heaven, I shall go home to him. But may my ears be listening always To the quiet secrets of a heavenly world; And my only pleasure, day and night, In the deep truths of the cross. When I get to see his heavenly face, And experience the taste of his divine peace; I will see the greatest glory of the world, As but a thing unworthy of my attention. Let North, South, and distant East, come To hear the better news; And let the sound of the gospel of grace spread, As a circle around the blue-green earth. Amen, amen, let sea and land be In perfect peace, in true love Without their having pleasure of any kind But loving great Jesus and their God. Shining :: To shine Make me see :: Let me see :: :: While I get to travel :: While I am travelling tr. 2008,22 Richard B Gillion |
|